Polisi Mynediad – Parc Dŵr SC2   

Polisi Mynediad Nofio Hamdden Sir Ddinbych Cyf

Mae gan Hamdden Sir Ddinbych bolisi ar waith o ran derbyn cwsmeriaid i’r Parc Dŵr, fel bod pawb yn gallu defnyddio ein cyfleusterau mewn amgylchedd diogel a dymunol.  

Sesiynau Rhieni a Phlant Bach

Sesiwn yn benodol ar gyfer rhieni a phlant iau. Gan ddechrau o babanod newydd-anedig hyd at ac yn cynnwys rhai 4 oed.

Cymhareb Oedolyn i bob Plentyn

Plant dan 3 oed

1 oedolyn i 1 plentyn gyda neu heb gymorth arnofio cymeradwy*

1 oedolyn i 2 plentyn gyda chymorth arnofio cymeradwy* 

Plant 3-7 oed

1 oedolyn i 2 plentyn**

Plentyn o dan 3 oed gyda phlentyn 3-7 oed 

1 oedolyn i 2 blentyn gyda neu heb gymorth arnofio cymeradwy.   Fodd bynnag, rydym yn cynghori bod gan y plentyn dan 3 oed gymorth arnofio.

*Mae cymorth arnofio cymeradwy yn cynnwys bandiau braich, fest arnofio neu sedd wedi’i strapio i mewn, sy’n bodloni safon BSEN 13138.

**Ac eithrio pan fydd plant yn cymryd rhan mewn sesiynau/gweithgareddau sy’n cael eu trefnu a’u goruchwylio gan y Ganolfan. 

Diogelu

Mae’n rhaid i oedolion sy’n goruchwylio plant dan 8 oed fod o leiaf 16 mlwydd oed ac mae’n rhaid iddynt fod gyda’r plant bob amser, yn y dŵr ac yn yr ystafelloedd newid. 

Dylai plant dros 8 oed newid yn yr ystafelloedd newid dynion / merched dynodedig fel y bo’n briodol. Mae tynnu delweddau llonydd neu rai sy’n symud wedi’i wahardd, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Reolwr y Ganolfan.

Fel safle a reolir gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf, mae ysmygu wedi’i wahardd yn y cyfleuster hwn a’r ardal gyfagos yn cynnwys wrth ramp y fynedfa.

Mae’r defnydd o urhyw offer sy’n gallu recordio delweddau llonydd neu symudol wedi’i wahardd yn llwyr, heb ganiatâd ymlaen llaw gan reolwyr y ganolfan.

Cyfyngiadau Taldra a Phwysau ar gyfer y Sleidiau Dŵr

Anaconda  – cyfyngiad taldra o 1.2m

Boomerang – cyfyngiad taldra o 1.2m

Speedster – cyfyngiad taldra o 1.2m

Sleid lydan felyn – cyfyngiad taldra o 1.0m

Mae cyfyngiad pwysau o 18 stôn (uchafswm) ar bob sleid.

Cyffredinol

Mae’n rhaid gwisgo dillad nofio priodol bob amser, h.y. dim jîns, crys-t na throwsus byr yn is na’r ben-glin.  Ni chaniateir gwisgo masgiau, ffliperi na snorceli yn y pwll yn ystod y sesiynau cyhoeddus.

Er budd hylendid ac i wella ansawdd dŵr, rydym yn gofyn i bob cwsmer gael cawod cyn mynd i mewn i’r pwll. 

Ni ddylid defnyddio’r cyfleusterau ar gyfer hyfforddi/cyfarwyddo (am dâl neu’n ddi-dâl) heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan Reolwr y Ganolfan.

Dylai’r holl nofwyr sy’n gwisgo clytiau neu ddillad isaf amddiffynnol wisgo Clwt Nofio o dan eu gwisg nofio neu wisg nofio at ddibenion arbennig.  Gellir prynu Clytiau Nofio i fabanod a phlant bach yn y dderbynfa. 

Rydym angen rhybudd o flaen llaw o unrhyw grŵp neu sefydliad sy’n dod a mwy na pymtheg o nofwyr ar unrhyw adeg. 

Rhowch wybod i’r Achubwr Bywydau os oes gennych chi unrhyw salwch neu anabledd a allai effeithio ar eich gallu i nofio yn ystod eich ymweliad.

Mae Rheolwr y Ganolfan yn cadw’r hawl i wrthod mynediad neu ddiarddel unigolion os all eu cyflwr neu eu hymddygiad beryglu diogelwch a mwynhad eraill.

Trais tuag at ein staff ac aflonyddu arnynt

Sylwer bod staff SC2 yma i’ch helpu.  Mae gennym hawl i weithio mewn amgylchedd nad yw’n fygythiol ac felly ni fyddwn yn goddef ymddygiad gamdriniol tuag at ein tîm staff. Byddwn yn gofyn i unrhyw gwsmeriaid sy’n ymddwyn felly i adael y cyfleuster.

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google