

Bwyty Coedwig Law
Wedi’i leoli wrth yr ardal dderbynfa, dyma’r bwyty mwyaf yn SC2. Gydag ystod eang o fargeinion bwyd blasus a phrydau ar gael. Bydd y plant wrth eu boddau â’r detholiad o brydau plant sydd ar gael a’n hamrywiaeth blasus o hufen iâ Red Boat. Gall y rhai ifanc hefyd losgi unrhyw egni ychwanegol yn ardal chwarae newydd y Goedwig Law. Mae Bwyty Coedwig Law yn agored i’r cyhoedd, ac nid oes angen i chi ddefnyddio unrhyw un o’n hatyniadau i fwynhau’r hyn sydd i’w gynnig yn y bwyty.
⭐ Wyddoch chi… Gallwch arbed £1 ar bryd plentyn os byddwch yn archebu ar-lein wrth archebu eich sesiwn parc dŵr, TAG Ninja neu Chwarae Antur.⭐


Caffi yn yr ardal Chwarae Antur
Bydd unrhyw un sy’n ymweld â Ninja TAG a’r ardal Chwarae Antur yn siŵr o losgi llawer iawn o egni ac ni fydd angen iddyn nhw edrych ymhellach na’r Caffi yn yr ardal Chwarae Antur i ail-lenwi eu boliau. Gyda dewis o ddiodydd poeth ac oer, hufen iâ blasus a bwydlen y Bwyty Coedwig Law, mae rhywbeth i gadw pawb i fynd!

Y Dyfrle
Os nad ydych eisiau gwastraffu amser i ffwrdd o’r atyniadau, ond angen cymryd seibiant, ewch i’r Dyfrle ar ochr y pwll yn y parc dŵr dan do. Wedi’i leoli yn y Parc Dŵr ei hun, yn gweini’r un fwydlen â’r Bwyty Coedwig Law, nid oes angen i chi adael ochr y pwll i fwynhau eich bwyd, diod neu hufen iâ, yna’n syth yn ôl i’r dŵr i gael mwy o hwyl!


Y Teras
Mae’r Teras yn lleoliad perffaith i ymlacio ar ddiwrnod cynnes a heulog. Archebwch o fwydlen y Bwyty Coedwig Law a dewiswch o ystod flasus o hufen iâ yma yn y Teras! Gyda’n detholiad o gwrw, seidr a gwinoedd oer ar gael, dyma’r lleoliad delfrydol i ymlacio gan edrych dros y Pad Sblasio. Mae’r Teras ar agor i’r cyhoedd ar ddiwrnodau heulog, ac nid oes angen i chi ddefnyddio ein hatyniadau i ymlacio gyda ni.

Y Caban Byrbrydau
Pan fydd hi’n amser i gael egwyl o’r holl chwarae ar y Pad Sblasio, mae’r Caban Byrbrydau’n gweini’r un fwydlen â’r Bwyty Coedwig Law. Nid oes angen i chi adael ochr y pwll i fwynhau eich bwyd, diod neu hufen iâ, a gallwch gadw pawb yn hapus trwy gydol y dydd.


Yn falch o weini Costa
Rydym yn falch o allu gweini ystod o ddiodydd Costa poeth ac oer yn SC2. O’r Bwyty Coedwig Law i’r Dyfrle; Caffi Chwarae Antur i’r Caban Byrbrydau, mae Costa i gadw pawb yn hapus!

Mae DLL bellach mewn partneriaeth â chwmni hufen iâ crefftus Red Boat o Ynys Môn. Yma yn SC2 rydym yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion gelato crefftus o ansawdd uchel gyda blasau unigryw a blasus! Ewch i’r Bwyty Coedwig Law i weld y dewis!