Partïon Plant

parc dwr
chwarae antur
ninja tag

Parti Parc Dŵr – £21.99 y plentyn

Mae parc dŵr SC2 ar gau ar hyn o bryd oherwydd ein bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag y bydd gennym fwy o wybodaeth. Mae Ninja TAG ac ardal Chwarae Antur SC2 ar agor fel arfer.

 
 

I archebu eich parti

Cliwch yma

Bydd parti parc dŵr yn SC2 yn siŵr o fod wrth fodd eich gwesteion, lle arall fedrwch chi fynd ar y Boomerang neu herio’r Anaconda?

Y cwbl sydd arnoch chi angen ei wneud ydi dewis dyddiad ac amser a gwahodd eich ffrindiau – gadewch bob dim arall i ni!

Pryd fedra i archebu parti?

Gallwch archebu parti ar gyfer dydd Sadwrn neu ddydd Sul, am 9.30am a 12.30pm yn ystod y tymor.

Yn ystod gwyliau’r ysgol, fe allwch chi drefnu parti yn dechrau am 9.30am a 12.30pm ddydd Llun i ddydd Gwener.

Beth sydd wedi’i gynnwys mewn parti parc dŵr?

Byddwch yn cael dwy awr a hanner yn y parc dŵr ac yna pryd pen-blwydd a diod. Mi fydd yna hefyd jygiau o ddiod ffrwythau wrth law ar gyfer y plant.

 

Faint mae parti parc dŵr yn costio?

Mae parti yn costio £21.99 y pen ac yn cynnwys mynediad i 5 oedolyn am ddim. Mae’n rhaid cael o leiaf 10 plentyn.

Mae’n rhaid archebu a thalu am bartïon pen-blwydd o leiaf wythnos ymlaen llaw.

Unrhyw wybodaeth arall::

Mae yna gyfyngiadau taldra ar brif lithren SC2: Rhaid bod yn 1.2 metr o daldra i fyd ar y Speedster, yr Anaconda a’r Boomerang.

Partïon Chwarae Antur – o £12.99 y plentyn

Mae chwarae anturSC2 dan do yn  hwyl arbennig. Dewch i gwrdd â’n deinosoriaid cyfeillgar wrth grwydro’r ardal chwarae. 

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw dewis y diwrnod a’r amser rydych chi ei eisiau ar gyfer eich parti, gwahodd eich ffrindiau ac fe wnawn ni’r gweddill i chi!

Pryd fedra i archebu parti?

Archebwch eich parti gyda ni, yr amseroedd parti sydd ar gael yw 10.30 a 15.00 ar ddydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod y tymor. Ac eithrio Gwyliau’r Nadolig. Mae partïon allfrig ar gael hefyd.

Beth ydw i’n ei gael gyda pharti Chwarae Antur?

Byddwch yn cael 90 munud yn y ardal chwarae antur gyda gwesteiwr parti ymroddedig, ac yna pryd pen-blwydd a diod. Mae yna hefyd jygiau o sgwash wrth law i gadw’r plant yn hapus trwy gydol eu hymweliad.

Yr opsiynau bwyd yw: Pizza, Cŵn Poeth, Nygets Cyw Iâr (pob un wedi’i weini â sglodion) neu Bocs Picnic Oer.

Mae gwahoddiadau parti a bagiau anrhegion hefyd wedi’u cynnwys.

A oes unrhyw ychwanegion ar gael?

Oes. Gallwch chi uwchraddio’ch parti  i gynnwys y Ffatri Hufen Iâ anhygoel. Efallai y byddwch yn llawn ar ôl eich gwledd barti ond cofiwch fod lle i anialwch bob amser!

Faint yw parti chwarae antur?

Mae’r pris yn dechrau o £12.99 y pen yn ystod oriau all-frig a £15.99 y pen yn ystod oriau brig ac mae hyn yn cynnwys 5 oedolyn am ddim. Y nifer lleiaf ar gyfer parti yw 10 o blant.

Rhaid archebu a thalu am bob parti pen-blwydd o leiaf wythnos ymlaen llaw.

Unrhyw wybodaeth arall:

Mae cyfyngiadau uchder yn berthnasol. Rhaid i blant fod o dan 1.48m.

Er mwyn cydymffurfio â chyfyngiadau taldra, efallai y bydd angen rhannu parti rhwng Chwarae Antur a Ninja TAG yn dibynnol ar daldra’r plant.

Rydym yn cysylltu â threfnwyr pob plaid i gadarnhau’r niferoedd terfynol sy’n mynychu, wythnos cyn dyddiad yr archeb. Sylwch na roddir ad-daliadau na chredydau am leoedd na fynychwyd, unwaith y bydd y niferoedd terfynol wedi’u cadarnhau.

Mae croeso i gwsmeriaid ddod â chacennau pen-blwydd ond rhaid eu prynu o archfarchnad a’u bod wedi gorchuddio gyda pecyn alergeddau.

I archebu eich parti

Cliwch yma

Partïon TAG – o £17.99 y plentyn

Ein harena Ninja TAG Actif yw’r cyntaf yng Nghymru , sydd yn siŵr o roi’r ‘waw ffactor’ i unrhyw barti pen-blwydd.

Y cwbl sydd arnoch chi angen ei wneud ydi dewis dyddiad ac amser a gwahodd eich ffrindiau – gadewch bob dim arall i ni!

Pryd fedra i archebu parti?

Mae’r partïon sydd ar gael gennym yn dechrau am 4.30 ddydd Mercher i ddydd Gwener. Ar benwythnosau, fe allwch chi archebu parti i ddechrau am 10.30am, 1.30pm neu 4.30pm. Yn ystod gwyliau’r ysgol, gallwch archebu parti i ddechrau am 10.30am, 1.30pm neu 4.30pm ddydd Llun i ddydd Gwener.

Beth sydd wedi’i gynnwys mewn parti TAG Actif?

Byddwch yn cael gwesteiwr parti i fynd â chi drwy ddwy gêm 20 munud o hyd yn yr arena, ac yna bydd pob plentyn yn cael un tro’r un ar y Tŵr Seiber. Wedi’r holl hwyl, bydd pryd o fwyd pen-blwydd a diodydd. Mi fydd yna hefyd jygiau o ddiod ffrwythau wrth law ar gyfer y plant.

Faint mae parti Ninja TAG yn costio?

Mae’r brif arena yn dechrau o £17.99 y pen ar adegau all-frig ac o £21.99 y pen ar adegau prysur. Mae’n rhaid cael o leiaf 10 plentyn.

Mae’n rhaid archebu a thalu am bartïon pen-blwydd o leiaf wythnos ymlaen llaw.

Unrhyw wybodaeth arall:

Cyfyngiadau taldra: Mae’r brif arena TAG ar gyfer unigolion dros 1.2 metr ac mae’r arena iau ar gyfer unigolion dros 90cm ac o dan 1.2 metr.

I archebu eich parti

Cliwch yma

BWYD A DIOD

Opsiynau Bwyd: Bocs bwyd oer, gan gynnwys brechdan, bag o greision a bar o siocled.

Lle am bwdin? Uwchraddiwch eich archeb i gynnwys hufen iâ.

Rydym yn gweini Coffi Costa hefyd.

Cofiwch roi gwybod i ni am anghenion dietegol ac alergeddau ymlaen llaw er mwyn i ni wneud y paratoadau angenrheidiol. Er diogelwch ein gwesteion, rydym yn caniatáu cacennau pen-blwydd o’r siop a chacennau proffesiynol, os yw’r rhestr lawn o gynhwysion yn cael eu darparu, ond ni allwn weini cacennau cartref yn ein partïon.

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google