CWESTIYNAU CYFFREDIN

Sut y galla i gysylltu ag SC2?

Gallwch gysylltu ag SC2:
drwy ffonio 01745 777562
drwy anfon e-bost at enquiries@sc2rhyl.co.uk
drwy Facebook/Twitter.

Ein cyfeiriad yw SC2, Rhodfa’r Gorllewin, Y RHYL, Sir Ddinbych, LL18 1BF.

Rydym yn cael llawer o ymholiadau, felly os oes angen gwybodaeth ar frys arnoch chi neu os bydd amser yn brin, e.e. archebu lle ar gyfer y diwrnod canlynol, awgrymwn eich bod yn cysylltu ag aelod o’n tîm gwasanaethau cwsmeriaid dros y ffôn.

Os hoffech chi gofrestru eich diddordeb a chael newyddion a diweddariadau am SC2, gallwch wneud hynny yma https://sc2rhyl.co.uk/register/

A oes gostyngiad i bobl leol?

Gall deiliaid cerdyn hamdden gael pris gostyngedig yn ystod y tymor yn unig.  Mae cardiau hamdden ar gael i’w prynu yn y dderbynfa yn SC2.

A yw’r pwll yn ddigon dwfn i nofio ynddo?

Mae rhan o’r prif bwll dan do yn ddigon dwfn i nofio ynddo, fodd bynnag mae’r ardal ddŵr wedi’i llunio ar gyfer chwarae yn hytrach na nofio mewn lonydd traddodiadol.  Ar ei ddyfnaf mae’r pwll dan do yn 0.9 metr.

A oes pwll awyr agored?

Oes, mae pad sblasio awyr agored gyda llithrennau dŵr, nodweddion dŵr ac offer chwarae dŵr ar gyfer ymwelwyr iau.  Mae agor yr ardal hon yn dibynnu ar y tywydd.

Nid yw’r ardal awyr agored wedi’i gynnwys ym mhris eich tocyn, ond os bydd ar agor, mae am ddim i holl gwsmeriaid y parc dŵr yn ystod eu hymweliad.

A oes rhaid i wylwyr dalu?

Gofynnwn i chi dynnu eich esgidiau cyn i chi fynd i’r ystafelloedd newid neu ddefnyddio’r gorchuddion glas a ddarperir gennym.

Mewn adegau prysur, pan fydd ardal y pwll yn brysur, gall gwylwyr gadw llygad o’r ardal fwyta.

A oes gostyngiad ar gyfer Gofalwyr Cofrestredig?

Rydym yn cynnig gostyngiad ar gyfer gofalwyr cofrestredig.  Wrth ddangos cerdyn GOGDdC (https://www.newcis.org.uk/ neu unrhyw gynllun awdurdod lleol arall, mae gennych hawl i gael cerdyn hamdden am ddim gan SC2. Bydd y Cerdyn Hamdden yn galluogi i chi gael mynediad i SC2 yn rhatach.

Pa mor hir yw sesiwn yn y Parc dŵr?

Yn ystod gwyliau’r ysgol, mae sesiynau yn y Parc dŵr yn 2 awr a hanner, ac yn dechrau o’r amser y cewch eich band arddwrn.  Yn ystod y tymor, pan mae’n llawer tawelach, mae tocynnau diwrnod ar gael.

Lle ydw i’n parcio wrth ymweld ag SC2?

Mae Maes Parcio’r Tŵr Awyr wedi’i leoli yn agos i SC2, ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd yno.  Rydym yn argymell bod cwsmeriaid yn defnyddio’r maes parcio arhosiad hir yng nghanol y dref, y gellir mynd ato o gylchfan cloc y tŵr, gan fod mwy o lefydd yno ac mae’n rhatach.  Yn anffodus, nid oes gennym y gallu i ddarparu newid arian parod ar gyfer talu am barcio.

Os fydda i’n hwyr ac yn methu fy sesiwn, a gaf i ad-daliad?

Yn anffodus, ni allwn gynnig ad-daliadau am sesiynau a gollwyd oherwydd tywydd garw, traffig, newid cynlluniau ac ati. Yn ôl disgresiwn y rheolwyr, gallwn gynnig ad-daliad os collir sesiwn oherwydd sefyllfa feddygol ac wrth ddangos llythyr meddyg.

A gaf i ddod â fy mwyd a’m diod fy hun i SC2?

Rhaid i fwyd a diod gael eu prynu yn un o ganolfannau arlwyo SC2.  Mae gennym x canolfan gydag amrywiaeth o fyrbrydau, prydau a diodydd.  Cofiwch fod yr holl ganolfannau arlwyo yn stopio gweini awr cyn i SC2 gau.

A oes cyfyngiadau o ran taldra neu bwysau ar gyfer y llithrennau neu TAGactive?

Y parc dŵr – Rhaid i chi fod o leiaf 1.2 metr i fynd ar Boomerang, Speedster a Death Defying Anaconda. I ddefnyddio’r llithren felyn ar y strwythur chwarae piranha, rhaid i chi fod o leiaf 1.0 metr o dal. Mae’r holl gyfyngiadau yn ar waith er eich diogelwch chi.  Mae cyfyngiad pwysau o 18 stôn ar yr holl lithrennau.

Beth fydd yn digwydd os bydd angen i chi gau’r pwll yn ystod fy ymweliad?

Er ein bod yn gwneud ein gorau glas i gadw a chynnal SC2 yn ddidrafferth, efallai y bydd yn rhaid i ni gau’r pwll yn annisgwyl ar unwaith oherwydd problemau technegol.    Pe digwydd hyn, bydd yr holl gwsmeriaid yr effeithir arnynt yn cael taleb ar gyfer dod am sesiwn arall.

A yw tymheredd y dŵr yn addas i fabi bach?

Mae tymheredd y dŵr wedi’i osod ar 30 gradd drwy’r flwyddyn. Mae hyn yn gynhesach na’r rhan fwyaf o byllau nofio, ond ddim yn ddigon cynnes i fabanod ifanc iawn dros gyfnod hir efallai. Cofiwch hyn pan fyddwch yn cynllunio eich ymweliad.

A oes seddi ar gael o amgylch y pwll?

Mae seddi ar gael, ond mewn cyfnodau prysur ni allwn sicrhau y bydd sedd ar gyfer pob cwsmer.

Mae rhai o’r seddau wedi’u cadw ar gyfer cwsmeriaid sy’n prynu bwyd a diod o’n canolfannau.

A oes loceri ac a ydych yn codi tâl am gael eu defnyddio?

Rydym yn gweithredu system bandiau arddwrn ar gyfer loceri, systemau talu heb arian parod ar gyfer bwyd a diod a’r siop.  Rhaid talu blaendal o £5 am ein bandiau arddwrn a chaiff hwn ei roi yn ôl i chi ar ddiwedd eich ymweliad pan fyddwch yn dychwelyd y band arddwrn.

Sut galla i roi adborth am fy ymweliad?

Rydym yn croesawu pob adborth gan gwsmeriaid a byddwn yn defnyddio unrhyw bryderon a godwyd neu welliannau a awgrymwyd yn gadarnhaol.  Gofynnwn i gwsmeriaid godi unrhyw bryderon am eu hymweliad gyda rheolwr cyn gadael, a byddwn yn gwneud ein gorau i ddatrys unrhyw broblemau ar unwaith.

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google