Y diwrnod perffaith i’r plant bach yma yng nghanol Gogledd Cymru. Tra bo’r plant yn mwynhau eu hunain yn y dŵr, bydd cyfle i oedolion ymlacio yn yr haul (neu’r cysgod) ar ein teras awyr agored neu yn yr ardaloedd eistedd neu ymuno â’u plant i wneud y diwrnod hwn yn un cofiadwy.
Dyluniwyd Pad Sblasio Awyr Agored SC2 i ganiatáu ymwelwyr i wneud y mwyaf o’r heulwen. Yn amgylchynu pwll padlo, mae’r dŵr yn 30cm ar ei ddyfnaf, ac yn berffaith ar gyfer plant iau, plant bach a babanod.
Mae ein Pad Sblasio Awyr Agored ar agor yn ddyddiol yn ystod Gwyliau Ysgol Cymru am sesiynau 2.5 awr.
Mae’r Pad Sblasio yn llawn nodweddion lliwgar, hawdd mynd atynt, a bydd yn adloniant i’r rhai bach, wrth fagu eu hyder yn y dŵr ar yr un pryd.
Gall plant ifanc gael hwyl gyda’r canon dŵr a bwcedi dŵr, wrth ddysgu sut i reoli’r gweoedd dŵr a’r rhaeadrau dŵr. Ac wrth gwrs, ni fyddai unrhyw ddiwrnod yn gyflawn heb wibio i lawr y llithren Paradwys!