amdanom ni
LLITHRENNAU
PIRAHNA
PRISIAU ac ORIAU AGOR
ARCHEBWCH NAWR

Mae parc dŵr SC2 ar gau ar hyn o bryd oherwydd ein bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag y bydd gennym fwy o wybodaeth. Mae Ninja TAG ac ardal Chwarae Antur SC2 ar agor fel arfer.

Y PARC DŴR

 

Mae ein parc dŵr anhygoel yn cynnwys reidiau cafn syfrdanol, padlo fel petaech chi ar y traeth, ardaloedd chwarae rhyngweithiol a chaban bwyd a diod. Mae rhywbeth at ddant pawb – rhai sy’n hoffi antur neu rai sydd ond eisiau padlo.

Uchafswm dyfnder y pwll dan do yw 90cm gan ei fod wedi cael ei ddylunio ar gyfer chwarae yn hytrach na nofio. Mae ardal hyder dŵr yn mynd o 0cm i 30cm ac yn berffaith ar gyfer rhieni a phlant bach sydd eisiau mwynhau padlo a sblasio. Yn yr amgylchedd lliwgar hwn, bydd plant ifanc yn cael cyfle i ddatblygu eu hyder cyn symud ymlaen i’r nodweddion sblasio mwy.


LLITHRENNAU SC2 

‘Y Bwmerang’

Ewch i nôl cylch rwber a gwibiwch i lawr y Bwmerang ar ben eich hun neu mewn parau! Gwibiwch i lawr ar diwb gwynt a gadewch i ddisgyrchiant eich siglo yn ôl ac ymlaen tan i chi orffen yng nghanol y llithren. (Cyfyngiad taldra o 1.2m yn weithredol)

Yr Anaconda

Yr Anaconda yw cafn cyflymaf y parc, dyma reid tonnau cyflymdra uchel sy’n gwibio drwy’r tywyllwch a thu allan i geg agored y neidr.  Gwyliwch am y dannedd yna! Yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n hoff o antur a chyflymdra, byddwch eisiau mynd dro ar ôl tro. Sylwer: Mae’r llithren hwn mewn tywyllwch llethol. (Cyfyngiad taldra o 1.2m yn weithredol)

Y Speedster

Mae’r frwydr i gyrraedd y gwaelod yn dechrau yma, ac mae’n llawer cynt mynd i lawr yn hytrach nag i fyny! Rasiwch yn erbyn eich ffrindiau a’ch teulu ar y Speedster.  (Cyfyngiad taldra o 1.2m yn weithredol)

Sblasiwch i Chwarae Piranha

Bydd ein hymwelwyr iau wrth eu boddau â’r Olwyn Ddŵr.  Bydd dwylo bychain yn datrys yn sydyn sut i droi’r olwynion er mwyn llenwi’r bwcedi. Ond cadwch olwg ar y bwcedi – pan fydd y rheiny’n dechrau troi a’r pysgod yn chwistrellu dŵr, dyna pryd fydd yr hwyl yn dechrau o ddifri!  Wrth i’r dŵr lenwi’r sianeli islaw, mae digon o gyfleoedd i fynd i mewn a sblasio eich ffrindiau, neu hyd yn oed gwell, gadewch iddyn nhw eich sblasio chi!

Mae lefelau isaf yr ardal Chwarae Piranha yn wych ar gyfer ymwelwyr ifanc gyda llawer o nodweddion dŵr rhyngweithiol i’w harchwilio.  Mae’r llithrennau ar gyfer plant bach yn arwain at yr ardal hyder â dŵr, gyda mynediad tebyg i draeth, sy’n caniatáu i’r rhai nad ydynt yn gallu nofio eto i fwynhau eu hunain heb fod ofn eu bod yn mynd yn rhy ddwfn. Ar gyfer ein hymwelwyr hŷn, mwy anturus, mae’r lefelau uwch o Chwarae Piranha yn darparu’r holl hwyl fydd ei angen arnoch.  Gall blant archwilio’r strwythur, cael hwyl ddi-baid, socian eu hunain neu eu ffrindiau gyda’r canonau dŵr, cafnau tywallt dŵr a jetiau.  Yn y cyfamser, bydd cawodydd siarcod, olwynion dŵr a bwcedi’n tywallt dŵr uwchben wrth iddynt ymlwybro tuag at y llithrennau.

ARCHEBWCH NAWR
Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google