Hygyrchedd

 

Cyfleusterau hygyrch o fewn SC2

Ar ôl cyrraedd SC2 mae yna ofodau parcio i bobl anabl eu defnyddio, yn ogystal â llwybr i gadeiriau olwyn sydd yn arwain at y fynedfa.

Mae ein desg dderbynfa wedi’i dylunio i fod yn hygyrch i bawb ac mae ganddi lefel is ar gyfer y rhai â chadeiriau olwyn.

Cyfleusterau newid

Yn ein Pentref Newid mae gennym ddwy ystafell newid i bobl anabl gyda chawod unigol a chyfleusterau toiled. Mae gan ein mannau newid arbenigol wely newid, teclyn codi trac a sinciau hygyrch y gellir eu gostwng a’u codi’n electronig.

O fewn y pentref newid mae gennym 38 ciwbicl gyda 17 yn addas ar gyfer y rhai sydd angen lle ychwanegol neu sydd eisiau newid fel teulu.

Mae gennym loceri hygyrch sy’n fwy na’n loceri safonol ac mae gennym le oddi tanynt i gynorthwyo defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, mae gennym ddau gynorthwy-ydd ystafell newid a fydd yn gallu helpu gydag unrhyw gymorth ychwanegol.

Y Parc Dŵr

Wrth fynd i mewn i’r Parc Dŵr, mae lefel y dŵr yn 0 – 0.9m ar raddiant.  Mae grisiau ar gyfer mynd i mewn neu allan o ran ddyfnach y pwll.

Mae teclyn codi yn y pwll ar gael i’w ddefnyddio yn y parc dŵr, siaradwch ag aelod o’n tîm cyfeillgar a fydd yn gallu helpu.

 

Pad Sblasio Awyr Agored

Yn ystod misoedd yr Haf byddwn yn agor y Pad Sblasio awyr agored. Gellir mynd i mewn iddo o ymyl y pwll sydd â ramp i ganiatáu mynediad i gadeiriau olwyn.  Mae gennym hefyd gyfleusterau toiled anabl ar y Pad Sblasio awyr agored.

Rydym yn deall bod ciwio yn gallu amharu ar rai defnyddwyr.  Felly, rydym yn eich cynghori i archebu lle ar-lein a fydd yn lleihau amseroedd ciwio.  Mae croeso i chi ymlacio yn y Bwyty Coedwig Law tra bod aelodau eraill o’ch criw yn ymgofrestru.

Os hoffech weld y cyfleusterau cyn ymweld â SC2 ffoniwch ni ar 01745 777562 a byddem yn hapus i ddarparu ar eich cyfer.

Sesiynau cyfeillgar i Awtistiaeth

Rydym yn deall yn SC2 y gallai amgylchedd prysur, swnllyd fod yn gythryblus i rai nofwyr ag Awtistiaeth, felly rydym bellach wedi cyflwyno sesiwn cyfeillgar i awtistiaeth gyda gofalwyr yn nofio am ddim. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys llai o sŵn cefndir, cyhoeddiadau tannoy cyfyngedig, niferoedd cyfyngedig yn y pwll a nodweddion a sleidiau dethol ymlaen yn unig.

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google