Polisi Mynediad

SC2 Parc Dwr

Mae gan Hamdden Sir Ddinbych bolisi ar waith yn ymwneud â mynediad cwsmeriaid i’r pyllau nofio, er mwyn i bawb gael defnyddio ein cyfleusterau mewn amgylchedd diogel a phleserus. 

Plant o dan 3 oed 

1 Oedolyn: 1 Plentyn gyda neu heb cymhorthion arnofio cymeradwy 

Neu 

1 Oedolion: 2 Plentyn Y ddau gyda chymhorthion arnofio cymeradwy

Plant 3-7 oed 

1 Oedolyn: 2 Plentyn** gyda neu heb cymhorthion arnofio cymeradwy

Plentyn o dan 3 oed ag plentyn rhwng 3-7 oed 

1 Oedolyn: 2 Plentyn gyda neu heb cymhorthion arnofio cymeradwy, argymhellir fodd bynnag fod y plentyn o dan 3 oed gyda chymhorthion arnofio cymeradwy 

“Cymhorthion Arnofio Cymeradwy” yw rhai megis bandiau braich, fest arnofio neu sedd chwyddadwy sy’n cwrdd a safon BSEN 13138. 

** Bydd eithrio pan fydd y plant yn cymryd rhan mewn sesiynau / gweithgareddau priodol a drefnir gan y Ganolfan. 

  • Rhaid i oedolion sy’n goruchwylio plant o dan 8 fod yn o leiaf 16 mlwydd oed a bod gyda’r plant drwy’r adeg, yn y dŵr a’r ystafelloedd newid.
  • Rhaid gwisgo gwisgoedd nofio arferol yr holl amser, h.y. dim jîns, crys-t na throwsus byr yn is na’r ben-glin. Ni chaniateir gwisgo masgiau na ‘flippers’ yn y pwll yn ystod sesiynau cyhoeddus.
  • Fe ddylai plant dros 8 oed newid yn yr ystafell newid gwrywaidd / benywaidd dynodedig fel y sy’n briodol.
  • Er mwyn hylendid ag i wella ansawdd y dŵr, rydym yn gofyn i ein cwsmeriaid i gael cawod cyn mynd fewn i’r pwll.
  • Er mwyn diogelwch, ni allwn ganiatau unrhyw un i mewn i’r pwll os credwn eu bod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
  • Mae’r defnydd o unrhyw offer sy’n gallu recordio delweddau llonydd neu symudol wedi’i wahardd yn llwyr, heb ganiatâd ymlaen llaw gan reolwyr y ganolfan.
  • Ni ddylai’r cyfleusterau gael eu defnyddio ar gyfer hyfforddi/cyfarwyddo (am dâl neu’n ddi-dâl) heb caniatad ymlaen llaw gan reolwyr y ganolfan.
  • Rhaid i nofwyr sy’n gwisgo clytiau neu ddillad isaf amddiffynnol, wisgo clytiau nofio o dan eu gwisg nofio neu wisg nofio arbennig ar gyfer y diben hwnnw. Gellir prynu clytiau nofio ar gyfer babanod yn y dderbynfa.
  • Rhaid ein rhybuddio ymlaen llaw am unrhyw grŵp neu sefydliad sy’n dod â mwy na phymtheg o nofwyr ar unrhyw adeg.
  • Rhowch wybod i’r achubwr bywyd os oes gennych unrhyw salwch neu anabledd a all effeithio ar eich allu i nofio yn ystod eich ymweliad.

Mae rheolwyr y Ganolfan yn cadw’r hawl i wrthod mynediad, neu ddiarddel unigolion os all eu cyflwr neu eu hymddygiad beryglu diogelwch a mwynhad eraill.

Cliciwch yma i weld pdf

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google