Archebion ysgol

Mae SC2 yn cynnig rhywbeth i bawb! Mwynhewch eich amser yn sblasio yn ein parc dŵr, yn cael hwyl yn ein hardal Chwarae Antur â thema Jurasig, neu profwch eich sgiliau a’ch dewrder gyda Ninja TAG.  Gyda chyfleoedd ar gyfer adeiladu hyder a heriau corfforol ynghyd â digon o hwyl – SC2 yw’r lleoliad perffaith ar gyfer eich taith ysgol. Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i’n byd o hwyl ac antur.
Gwybodaeth Archebu
Ffurflen Ymholi
Cwestiynau Cyffredin

Gwybodaeth Archebu

Archebu lle:

    • Ffoniwch ni ar 01745 777562 i archebu eich lle neu llenwch y ffurflen ymholi isod.
    • Sicrhewch eich bod yn gwybod y dyddiad, nifer y gwesteion rydych chi eisiau archebu lle ar cyfer, ynghyd â’r dyddiad archebu rydych chi’n ei ffafrio. Os ydych chi’n archebu un o’n pecynnau prydau bwyd, ystyriwch pa amser yr hoffech chi i ni weini bwyd, a dywedwch hynny pan fyddwch chi’n archebu.
    • Mae angen blaendal o 50% o werth yr archeb pan fyddwch chi’n archebu, a byddwn angen y niferoedd terfynol a’r taliad olaf 7 diwrnod cyn i chi gyrraedd.
Cliciwch yma i ddarllen y ffurflen ymholi

Cwestiynau cyffredin archebu:

Pryd alla i ddod â fy ngrŵp ysgol?

Gallwn dderbyn archebion ar gyfer grwpiau ysgol ar ddydd Mercher a dydd Iau yn ystod amseroedd tymor ysgolion Cymru.

Ydych chi’n cynnig llefydd am ddim i athrawon?

Caniateir mynediad am ddim i un athro fesul 10 disgybl, ac mae’n rhaid iddynt fod yn bresennol fel pwyntiau cyswllt i ddisgyblion yn ystod eu hymweliad.

A fydd gan ein hysgol ddefnydd cyfan o’r cyfleusterau?

Gallwch archebu’r cyfleusterau cyfan yn arbennig ar gyfer eich ysgol, yn amodol ar y niferoedd archebu isafswm.  Os nad ydych chi’n archebu’r defnydd cyfan, efallai y byddwch chi’n rhannu’r cyfleusterau gydag ysgolion eraill neu aelodau o’r cyhoedd.

Sut a phryd ydym ni’n talu?

Mae’n rhaid i chi dalu 50% o flaendal o fewn pythefnos ar ôl i archebu.  Mae’r balans sy’n weddill yn ddyledus 14 diwrnod cyn eich ymweliad.

Beth syn digwydd os oes angen i mi ganslo ein hymweliad?

Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os oes angen i chi ganslo eich archeb.  Mae faint o ad-daliad y mae gennych chi hawl iddo yn dibynnu ar faint o rybudd rydych chi’n ei roi i ni.
Mwy na 4 wythnos: Ad-daliad llawn
Llai na 4 wythnos: 50% o ad-daliad – yn ildio eich blaendal i bob pwrpas.
Os ydi’r canslo’n digwydd oherwydd amodau y tu hwnt i’ch rheolaeth, megis tywydd eithafol, byddwn yn ceisio newid eich archeb i ddyddiad addas arall.
Os bydd yn rhaid i ni ganslo am unrhyw reswm (e.e. mae’r ganolfan yn gorfod cau) gallwn naill ai aildrefnu eich ymweliad ar ddyddiad arall, neu ad-dalu unrhyw ffioedd neu flaendal a dalwyd yn llawn.

Beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n cyrraedd?

Bydd eich Arweinydd grŵp penodol yn cyfarfod y grŵp y tu allan.  Byddant yn cael sgwrs fer gyda’ch grŵp – yn cynnwys rhai o’r pethau pwysig y mae angen i chi wybod amdanynt tra’n ymweld â SC2! Ceisiwch gadw at yr amser cyrraedd sydd wedi cael ei gadarnhau.

Beth sy’n digwydd os ydym ni’n rhedeg yn hwyr neu’n gynnar?

Gadewch i ni wybod os byddwch chi’n hwyr, a rhowch rhyw syniad i ni (os ydych chi’n gwybod) o pa mor hir fyddwch chi, ac fe wnawn ni’n gorau i sicrhau nad yw eich dosbarth yn colli allan.

Os byddwch chi’n cyrraedd yn gynnar, fe fydd modd i chi aros tan yr amser sydd wedi’i drefnu yn ein Bwyty Coedwig Law.

A fydd yna rhywle i storio ein heiddo?

Mae yna loceri am ddim ar gael yn y Ninja TAG a’r lle Chwarae Antur.

All plant ddod â’u pecyn bwyd eu hunain?

Na, dim ond bwyd a diod a brynwyd yn SC2 y gellir ei fwyta a’i yfed ar y safle. 

Alla’ i archebu’r TAG a Chwarae ar gyfer yr un ymweliad?

Gallwch – Byddwn yn gweithio gyda chi i lunio amserlen ar gyfer y diwrnod.

Alla’ i newid y nifer o blant sydd yn mynychu?

Cysylltwch â’n tîm os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau i’ch archeb.  Ni fydd gostyngiad bychan mewn niferoedd yn effeithio ar gost gyffredinol eich ymweliad.  Serch hynny, fe allai cynyddu’r niferoedd arwain at gostau ychwanegol a bydd angen i ni wirio i weld a oes gennym le ar gyfer hyn.

Ydi SC2 yn hygyrch?

Rydym ni’n falch o gynnig lleoliad hygyrch, gydag ystod o gefnogaeth a chyfleusterau ar gael i ymwelwyr anabl, gan gynnwys cyfleusterau newid a mwy.

Oes gennych chi Asesiad Risg?

Mae gan SC2 Asesiad Risg a Gweithdrefnau Gweithredu ar waith sydd ar gael ar gais.

Holwch am Daith i SC2 Heddiw

Ffurflen Ymholi:

    Privacy Settings
    We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
    Youtube
    Consent to display content from - Youtube
    Vimeo
    Consent to display content from - Vimeo
    Google Maps
    Consent to display content from - Google