Polisi Mynediad – Parc Dŵr SC2
Polisi Mynediad Nofio Hamdden Sir Ddinbych Cyf
Mae gan Hamdden Sir Ddinbych bolisi ar waith o ran derbyn cwsmeriaid i’r Parc Dŵr, fel bod pawb yn gallu defnyddio ein cyfleusterau mewn amgylchedd diogel a dymunol.
Sesiynau Rhieni a Phlant Bach
Sesiwn yn benodol ar gyfer rhieni a phlant iau. Gan ddechrau o babanod newydd-anedig hyd at ac yn cynnwys rhai 4 oed.
Cymhareb Oedolyn i bob Plentyn
Plant dan 3 oed
1 oedolyn i 1 plentyn gyda neu heb gymorth arnofio cymeradwy*
1 oedolyn i 2 plentyn gyda chymorth arnofio cymeradwy*
Plant 3-7 oed
1 oedolyn i 2 plentyn**
Plentyn o dan 3 oed gyda phlentyn 3-7 oed
1 oedolyn i 2 blentyn gyda neu heb gymorth arnofio cymeradwy. Fodd bynnag, rydym yn cynghori bod gan y plentyn dan 3 oed gymorth arnofio.
*Mae cymorth arnofio cymeradwy yn cynnwys bandiau braich, fest arnofio neu sedd wedi’i strapio i mewn, sy’n bodloni safon BSEN 13138.
**Ac eithrio pan fydd plant yn cymryd rhan mewn sesiynau/gweithgareddau sy’n cael eu trefnu a’u goruchwylio gan y Ganolfan.
Diogelu
Mae’n rhaid i oedolion sy’n goruchwylio plant dan 8 oed fod o leiaf 16 mlwydd oed ac mae’n rhaid iddynt fod gyda’r plant bob amser, yn y dŵr ac yn yr ystafelloedd newid.
Dylai plant dros 8 oed newid yn yr ystafelloedd newid dynion / merched dynodedig fel y bo’n briodol. Mae tynnu delweddau llonydd neu rai sy’n symud wedi’i wahardd, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Reolwr y Ganolfan.
Fel safle a reolir gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf, mae ysmygu wedi’i wahardd yn y cyfleuster hwn a’r ardal gyfagos yn cynnwys wrth ramp y fynedfa.
Mae’r defnydd o urhyw offer sy’n gallu recordio delweddau llonydd neu symudol wedi’i wahardd yn llwyr, heb ganiatâd ymlaen llaw gan reolwyr y ganolfan.
Cyfyngiadau Taldra a Phwysau ar gyfer y Sleidiau Dŵr
Anaconda – cyfyngiad taldra o 1.2m
Boomerang – cyfyngiad taldra o 1.2m
Speedster – cyfyngiad taldra o 1.2m
Sleid lydan felyn – cyfyngiad taldra o 1.0m
Mae cyfyngiad pwysau o 18 stôn (uchafswm) ar bob sleid.
Cyffredinol
Mae’n rhaid gwisgo dillad nofio priodol bob amser, h.y. dim jîns, crys-t na throwsus byr yn is na’r ben-glin. Ni chaniateir gwisgo masgiau, ffliperi na snorceli yn y pwll yn ystod y sesiynau cyhoeddus.
Er budd hylendid ac i wella ansawdd dŵr, rydym yn gofyn i bob cwsmer gael cawod cyn mynd i mewn i’r pwll.
Ni ddylid defnyddio’r cyfleusterau ar gyfer hyfforddi/cyfarwyddo (am dâl neu’n ddi-dâl) heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan Reolwr y Ganolfan.
Dylai’r holl nofwyr sy’n gwisgo clytiau neu ddillad isaf amddiffynnol wisgo Clwt Nofio o dan eu gwisg nofio neu wisg nofio at ddibenion arbennig. Gellir prynu Clytiau Nofio i fabanod a phlant bach yn y dderbynfa.
Rydym angen rhybudd o flaen llaw o unrhyw grŵp neu sefydliad sy’n dod a mwy na pymtheg o nofwyr ar unrhyw adeg.
Rhowch wybod i’r Achubwr Bywydau os oes gennych chi unrhyw salwch neu anabledd a allai effeithio ar eich gallu i nofio yn ystod eich ymweliad.
Mae Rheolwr y Ganolfan yn cadw’r hawl i wrthod mynediad neu ddiarddel unigolion os all eu cyflwr neu eu hymddygiad beryglu diogelwch a mwynhad eraill.
Trais tuag at ein staff ac aflonyddu arnynt
Sylwer bod staff SC2 yma i’ch helpu. Mae gennym hawl i weithio mewn amgylchedd nad yw’n fygythiol ac felly ni fyddwn yn goddef ymddygiad gamdriniol tuag at ein tîm staff. Byddwn yn gofyn i unrhyw gwsmeriaid sy’n ymddwyn felly i adael y cyfleuster.