
POLISI DERBYN

Polisi Archebion
Nid yw tocynnau’n ad-daladwy, a chaniateir trosglwyddo dyddiadau os rhoddir digon o rybudd. Os nad oes modd i chi fynychu ar y dyddiad rydych wedi’i archebu, ffoniwch ni i aildrefnu eich ymweliad. Fel arfer cewch 30 diwrnod i ailddefnyddio eich tocyn cyn iddo ddod i ben, ond mae’n rhaid i chi roi wythnos o rybudd o leiaf os oes angen i chi aildrefnu eich ymweliad. Dim ond unwaith gallwch ail archebu eich tocynnau. Nid yw’r tocynnau yn ad-daladwy. Os yw canllawiau’r Llywodraeth yn arwain at gau ein cyfleuster, byddwn yn aildrefnu eich ymweliad ar gyfer pan rydym ar agor eto. Mae oriau agor a phrisiau yn amodol i newid heb rybudd.
Os ydych chi’n archebu tocynnau i westeion anabl a’u gofalwyr: dewch â phrawf* o statws Gofalwr gyda chi a’i gyflwyno wrth y ddesg gwasanaethau gwesteion gyda’r cadarnhad o’ch archeb.
*Llythyr Dyfarnu Lwfans Gofalwr, Llythyr Lwfans Gweini, Credyd Cynhwysol gydag Elfen Gofalwr, Credyd Gofalwr, Cerdyn Gofalwr Lleol, Cerdyn Gofalwr Cenedlaethol, Cofrestriad â Meddyg Teulu, Cerdyn Gofalwr at Argyfwng
SYLWER: Nid oes modd i ni dderbyn tocynnau neu dalebau sydd wedi cael eu prynu gan drydydd parti. Mae trydydd parti yn ailwerthu ein tocynnau heb ganiatâd yn anghyfreithlon a byddwn yn cymryd camau cyfreithiol.