Mae parc dΕ΅r SC2 ar gau ar hyn o bryd, tra rydym wrthi yn gwneud gwaith atgyweirio iβr to, oherwydd difrod storm. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.Β Mae Ninja TAG ac ardal Chwarae Antur SC2 ar agor fel arfer.
Y PARC DΕ΄R
Mae ein parc dΕ΅r anhygoel yn cynnwys reidiau cafn syfrdanol, padlo fel petaech chi ar y traeth, ardaloedd chwarae rhyngweithiol a chaban bwyd a diod. Mae rhywbeth at ddant pawb β rhai syβn hoffi antur neu rai sydd ond eisiau padlo.
Uchafswm dyfnder y pwll dan do yw 90cm gan ei fod wedi cael ei ddylunio ar gyfer chwarae yn hytrach na nofio. Mae ardal hyder dΕ΅r yn mynd o 0cm i 30cm ac yn berffaith ar gyfer rhieni a phlant bach sydd eisiau mwynhau padlo a sblasio. Yn yr amgylchedd lliwgar hwn, bydd plant ifanc yn cael cyfle i ddatblygu eu hyder cyn symud ymlaen iβr nodweddion sblasio mwy.
LLITHRENNAU SC2Β
βY Bwmerangβ
Ewch i nΓ΄l cylch rwber a gwibiwch i lawr y Bwmerang ar ben eich hun neu mewn parau! Gwibiwch i lawr ar diwb gwynt a gadewch i ddisgyrchiant eich siglo yn Γ΄l ac ymlaen tan i chi orffen yng nghanol y llithren. (Cyfyngiad taldra o 1.2m yn weithredol)
Yr Anaconda
Yr Anaconda yw cafn cyflymaf y parc, dyma reid tonnau cyflymdra uchel syβn gwibio drwyβr tywyllwch a thu allan i geg agored y neidr.Β Gwyliwch am y dannedd yna! Yn ddelfrydol ar gyfer y rhai syβn hoff o antur a chyflymdra, byddwch eisiau mynd dro ar Γ΄l tro. Sylwer: Maeβr llithren hwn mewn tywyllwch llethol. (Cyfyngiad taldra o 1.2m yn weithredol)
Y Speedster
Maeβr frwydr i gyrraedd y gwaelod yn dechrau yma, ac maeβn llawer cynt mynd i lawr yn hytrach nag i fyny! Rasiwch yn erbyn eich ffrindiau aβch teulu ar y Speedster.Β (Cyfyngiad taldra o 1.2m yn weithredol)
Sblasiwch i Chwarae Piranha
Bydd ein hymwelwyr iau wrth eu boddau Γ’βr Olwyn DdΕ΅r.Β Bydd dwylo bychain yn datrys yn sydyn sut i droiβr olwynion er mwyn llenwiβr bwcedi. Ond cadwch olwg ar y bwcedi – pan fydd y rheinyβn dechrau troi aβr pysgod yn chwistrellu dΕ΅r, dyna pryd fydd yr hwyl yn dechrau o ddifri!Β Wrth iβr dΕ΅r lenwiβr sianeli islaw, mae digon o gyfleoedd i fynd i mewn a sblasio eich ffrindiau, neu hyd yn oed gwell, gadewch iddyn nhw eich sblasio chi!
Mae lefelau isaf yr ardal Chwarae Piranha yn wych ar gyfer ymwelwyr ifanc gyda llawer o nodweddion dΕ΅r rhyngweithiol iβw harchwilio.Β Maeβr llithrennau ar gyfer plant bach yn arwain at yr ardal hyder Γ’ dΕ΅r, gyda mynediad tebyg i draeth, syβn caniatΓ‘u iβr rhai nad ydynt yn gallu nofio eto i fwynhau eu hunain heb fod ofn eu bod yn mynd yn rhy ddwfn. Ar gyfer ein hymwelwyr hΕ·n, mwy anturus, maeβr lefelau uwch o Chwarae Piranha yn darparuβr holl hwyl fydd ei angen arnoch.Β Gall blant archwilioβr strwythur, cael hwyl ddi-baid, socian eu hunain neu eu ffrindiau gydaβr canonau dΕ΅r, cafnau tywallt dΕ΅r a jetiau.Β Yn y cyfamser, bydd cawodydd siarcod, olwynion dΕ΅r a bwcedi’n tywallt dΕ΅r uwchben wrth iddynt ymlwybro tuag at y llithrennau.