Polisi Mynediad
SC2 Parc Dwr
Mae gan Hamdden Sir Ddinbych bolisi ar waith yn ymwneud â mynediad cwsmeriaid i’r pyllau nofio, er mwyn i bawb gael defnyddio ein cyfleusterau mewn amgylchedd diogel a phleserus.
Plant o dan 3 oed
1 Oedolyn: 1 Plentyn gyda neu heb cymhorthion arnofio cymeradwy
Neu
1 Oedolion: 2 Plentyn Y ddau gyda chymhorthion arnofio cymeradwy
Plant 3-7 oed
1 Oedolyn: 2 Plentyn** gyda neu heb cymhorthion arnofio cymeradwy
Plentyn o dan 3 oed ag plentyn rhwng 3-7 oed
1 Oedolyn: 2 Plentyn gyda neu heb cymhorthion arnofio cymeradwy, argymhellir fodd bynnag fod y plentyn o dan 3 oed gyda chymhorthion arnofio cymeradwy
“Cymhorthion Arnofio Cymeradwy” yw rhai megis bandiau braich, fest arnofio neu sedd chwyddadwy sy’n cwrdd a safon BSEN 13138.
** Bydd eithrio pan fydd y plant yn cymryd rhan mewn sesiynau / gweithgareddau priodol a drefnir gan y Ganolfan.
- Rhaid i oedolion sy’n goruchwylio plant o dan 8 fod yn o leiaf 16 mlwydd oed a bod gyda’r plant drwy’r adeg, yn y dŵr a’r ystafelloedd newid.
- Rhaid gwisgo gwisgoedd nofio arferol yr holl amser, h.y. dim jîns, crys-t na throwsus byr yn is na’r ben-glin. Ni chaniateir gwisgo masgiau na ‘flippers’ yn y pwll yn ystod sesiynau cyhoeddus.
- Fe ddylai plant dros 8 oed newid yn yr ystafell newid gwrywaidd / benywaidd dynodedig fel y sy’n briodol.
- Er mwyn hylendid ag i wella ansawdd y dŵr, rydym yn gofyn i ein cwsmeriaid i gael cawod cyn mynd fewn i’r pwll.
- Er mwyn diogelwch, ni allwn ganiatau unrhyw un i mewn i’r pwll os credwn eu bod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
- Mae’r defnydd o unrhyw offer sy’n gallu recordio delweddau llonydd neu symudol wedi’i wahardd yn llwyr, heb ganiatâd ymlaen llaw gan reolwyr y ganolfan.
- Ni ddylai’r cyfleusterau gael eu defnyddio ar gyfer hyfforddi/cyfarwyddo (am dâl neu’n ddi-dâl) heb caniatad ymlaen llaw gan reolwyr y ganolfan.
- Rhaid i nofwyr sy’n gwisgo clytiau neu ddillad isaf amddiffynnol, wisgo clytiau nofio o dan eu gwisg nofio neu wisg nofio arbennig ar gyfer y diben hwnnw. Gellir prynu clytiau nofio ar gyfer babanod yn y dderbynfa.
- Rhaid ein rhybuddio ymlaen llaw am unrhyw grŵp neu sefydliad sy’n dod â mwy na phymtheg o nofwyr ar unrhyw adeg.
- Rhowch wybod i’r achubwr bywyd os oes gennych unrhyw salwch neu anabledd a all effeithio ar eich allu i nofio yn ystod eich ymweliad.
Mae rheolwyr y Ganolfan yn cadw’r hawl i wrthod mynediad, neu ddiarddel unigolion os all eu cyflwr neu eu hymddygiad beryglu diogelwch a mwynhad eraill.
Cliciwch yma i weld pdf