LLE I’N CANFOD NI
Lleolwyd ar Bromenâd y Rhyl ger y Twr Awyr.
Sut o’n canfod ni
Mae SC2 ar ochr y B5118, Rhodfa’r Gorllewin yn agos at ben gorllewinol Bromenâd y Rhyl. Mae wedi’i lleoli ger y Tŵr Awyr, sydd i’w weld yn amlwg wrth nesáu ato, a Sinema Vue hefyd. Mae arwyddion clir at y bromenâd o ganol y dref ei hun.
Teithio i SC2 ar y bws
Mae’r safleoedd bysiau sydd agosaf at SC2 ar Rhodfa’r Dwyrain tua 400m o’r Ganolfan a gyferbyn â’r Seaquarium. Gallwch gael gwasanaeth bysiau ehangach o Orsaf Fysiau’r Rhyl, sydd 5 i 10 munud ar droed o SC2 ac i’r de-ddwyrain o’r Ganolfan.
Gallwch gynllunio teithiau gan ddefnyddio’r isod:- http://www.traveline.cymru/
Teithio i SC2 ar y trên
Mae Gorsaf Drenau’r Rhyl 650m i ffwrdd o SC2 (tua 10 munud o waith cerdded). Mae’r orsaf, sy’n cael ei gweithredu gan gwmni Trenau Arriva Cymru, yn darparu cysylltiadau rheolaidd yn lleol a chenedlaethol.
Gallwch gynllunio teithiau gan ddefnyddio’r isod:- http://www.traveline.cymru/
Parcio
Meysydd parcio
Y ddau faes parcio cyhoeddus sydd agosaf at SC2 ydi Pentref Plant y Rhyl a Thŵr Awyr y Rhyl. Mae manylion am brisiau ac amseroedd agor i’w gweld yma www.sirddinbych.gov.uk/meysydd-parcio
Parcio i’r anabl
Mae digon o lefydd ar gael ar gyfer deilwyr y bathodynnau glas ym mhob maes parcio; mae nifer y llefydd hyn yn wahanol ym mhob maes parcio.