Hygyrchedd
Cyfleusterau hygyrch o fewn SC2
Ar ôl cyrraedd SC2 mae yna ofodau parcio i bobl anabl eu defnyddio, yn ogystal â llwybr i gadeiriau olwyn sydd yn arwain at y fynedfa.
Mae ein desg dderbynfa wedi’i dylunio i fod yn hygyrch i bawb ac mae ganddi lefel is ar gyfer y rhai â chadeiriau olwyn.
Cyfleusterau newid
Yn ein Pentref Newid mae gennym ddwy ystafell newid i bobl anabl gyda chawod unigol a chyfleusterau toiled. Mae gan ein mannau newid arbenigol wely newid, teclyn codi trac a sinciau hygyrch y gellir eu gostwng a’u codi’n electronig.
O fewn y pentref newid mae gennym 38 ciwbicl gyda 17 yn addas ar gyfer y rhai sydd angen lle ychwanegol neu sydd eisiau newid fel teulu.
Mae gennym loceri hygyrch sy’n fwy na’n loceri safonol ac mae gennym le oddi tanynt i gynorthwyo defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, mae gennym ddau gynorthwy-ydd ystafell newid a fydd yn gallu helpu gydag unrhyw gymorth ychwanegol.
Y Parc Dŵr
Wrth fynd i mewn i’r Parc Dŵr, mae lefel y dŵr yn 0 – 0.9m ar raddiant. Mae grisiau ar gyfer mynd i mewn neu allan o ran ddyfnach y pwll.
Mae teclyn codi yn y pwll ar gael i’w ddefnyddio yn y parc dŵr, siaradwch ag aelod o’n tîm cyfeillgar a fydd yn gallu helpu.
Pad Sblasio Awyr Agored
Yn ystod misoedd yr Haf byddwn yn agor y Pad Sblasio awyr agored. Gellir mynd i mewn iddo o ymyl y pwll sydd â ramp i ganiatáu mynediad i gadeiriau olwyn. Mae gennym hefyd gyfleusterau toiled anabl ar y Pad Sblasio awyr agored.
Rydym yn deall bod ciwio yn gallu amharu ar rai defnyddwyr. Felly, rydym yn eich cynghori i archebu lle ar-lein a fydd yn lleihau amseroedd ciwio. Mae croeso i chi ymlacio yn y Bwyty Coedwig Law tra bod aelodau eraill o’ch criw yn ymgofrestru.
Os hoffech weld y cyfleusterau cyn ymweld â SC2 ffoniwch ni ar 01745 777562 a byddem yn hapus i ddarparu ar eich cyfer.
Sesiynau cyfeillgar i Awtistiaeth
Rydym yn deall yn SC2 y gallai amgylchedd prysur, swnllyd fod yn gythryblus i rai nofwyr ag Awtistiaeth, felly rydym bellach wedi cyflwyno sesiwn cyfeillgar i awtistiaeth gyda gofalwyr yn nofio am ddim. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys llai o sŵn cefndir, cyhoeddiadau tannoy cyfyngedig, niferoedd cyfyngedig yn y pwll a nodweddion a sleidiau dethol ymlaen yn unig.