LLE I’N CANFOD NI

Lleolwyd ar Bromenâd y Rhyl ger y Twr Awyr.

Sut o’n canfod ni

Mae SC2 ar ochr y B5118, Rhodfa’r Gorllewin yn agos at ben gorllewinol Bromenâd y Rhyl.  Mae wedi’i lleoli ger y Tŵr Awyr, sydd i’w weld yn amlwg wrth nesáu ato, a Sinema Vue hefyd.  Mae arwyddion clir at y bromenâd o ganol y dref ei hun.

Teithio i SC2 ar y bws

Mae’r safleoedd bysiau sydd agosaf at SC2 ar Rhodfa’r Dwyrain tua 400m o’r Ganolfan a gyferbyn â’r Seaquarium.  Gallwch gael gwasanaeth bysiau ehangach o Orsaf Fysiau’r Rhyl, sydd 5 i 10 munud ar droed o SC2 ac i’r de-ddwyrain o’r Ganolfan.

Gallwch gynllunio teithiau gan ddefnyddio’r isod:- http://www.traveline.cymru/

Teithio i SC2 ar y trên

Mae Gorsaf Drenau’r Rhyl 650m i ffwrdd o SC2 (tua 10 munud o waith cerdded).  Mae’r orsaf, sy’n cael ei gweithredu gan gwmni Trenau Arriva Cymru, yn darparu cysylltiadau rheolaidd yn lleol a chenedlaethol.

Gallwch gynllunio teithiau gan ddefnyddio’r isod:- http://www.traveline.cymru/

Parcio

Meysydd parcio

Y ddau faes parcio cyhoeddus sydd agosaf at SC2 ydi Pentref Plant y Rhyl a Thŵr Awyr y Rhyl. Mae manylion am brisiau ac amseroedd agor i’w gweld yma  www.sirddinbych.gov.uk/meysydd-parcio

Parcio i’r anabl

Mae digon o lefydd ar gael ar gyfer deilwyr y bathodynnau glas ym mhob maes parcio; mae nifer y llefydd hyn yn wahanol ym mhob maes parcio.

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google