
Mae Maes Parcio’r Tŵr Awyr wedi’i leoli yn agos i SC2, ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd yno. Rydym yn argymell bod cwsmeriaid yn defnyddio’r maes parcio arhosiad hir yng nghanol y dref, y gellir mynd ato o gylchfan cloc y tŵr.
Mae’n rhaid i fwyd a diod gael eu prynu yn un o ganolfannau arlwyo SC2. Ymwelwch â’n tudalen bwyd a diod i gael rhagor o wybodaeth.
Rydym yn derbyn cwsmeriaid ar y diwrnod, fodd bynnag, rydym yn argymell archebu ar-lein er mwyn sicrhau nad ydych yn cael eich siomi gan na allwn sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod ar gyfer eich sesiwn. Byddem hefyd yn argymell i chi ddarllen ein polisi derbyn cyn i chi ymweld â ni er mwyn osgoi unrhyw ddryswch ar y diwrnod.
Drwy ffonio 01745 777562 neu drwy anfon e-bost at sc2rhyl@denbighshireleisure.co.uk
Ar Facebook/ Instagram:
Drwy’r post: SC2, Rhodfa’r Gorllewin, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 1BF.
Rydym yn cael llawer o ymholiadau, felly os oes angen gwybodaeth ar frys arnoch chi neu os bydd amser yn brin, e.e. archebu lle ar gyfer y diwrnod canlynol, awgrymwn eich bod yn cysylltu ag aelod o’n tîm gwasanaethau cwsmeriaid dros y ffôn.
Deallwn fod pethau annisgwyl yn digwydd. Os nad ydych yn gallu mynychu’r sesiwn a archebwyd gennych mwyach, cysylltwch â’n tîm a byddwn yn ail-drefnu eich sesiwn i ddiwrnod arall.
Yn anffodus, nid ydym yn gallu cynnig unrhyw ad-daliad am sesiynau a fethir yn sgil tywydd, traffig neu amgylchiadau eraill y tu hwnt i’n rheolaeth. Fodd bynnag, gallwn symud yr archeb i ddyddiad arall.
Nid yw SC2 yn cynnig y gostyngiadau hyn ar hyn o bryd. Gellir gweld y prisiau ar y wefan hon.
Os ydych chi wedi dod o hyd i godau gostyngiad ar wefannau nad ydynt yn perthyn i SC2, nid yw’r rhain wedi’u hawdurdodi na’u cymeradwyo gan SC2. Mae’n debygol eich bod wedi dod ar eu traws ar wefan trydydd parti a luniwyd i ddenu pobl i’w gwefan ac argymhellwn nad ydych yn ymweld â’r gwefannau hyn.
Caiff unrhyw godau gostyngiad dilys eu hysbysebu ar wefan a chyfryngau cymdeithasol SC2 yn unig.
Defnyddir bandiau arddwrn i weithredu ein loceri parc dŵr. Rydym yn codi blaendal am bob band arddwrn sydd ei angen arnoch, a fydd yn cael ei ad-dalu i chi pan fyddwch yn eu dychwelyd. Byddwch yn derbyn eich bandiau arddwrn pan fyddwch yn cyrraedd. Argymhellwn un locer rhwng dau unigolyn.
Y parc dŵr – Mae’n rhaid i chi fod o leiaf 1.2 metr i fynd ar Boomerang, Speedster (y llithren gyflymaf yn y parc) a’r Anaconda. Efallai na ddylech fentro ar yr Anaconda os nad ydych chi’n hoff o’r tywyllwch, gan y byddwch yn gwibio drwy dywyllwch llwyr! I ddefnyddio’r llithren lydan felen yn yr ardal Piranha Play, mae’n rhaid i chi fod o leiaf 1.0 metr o daldra. Mae’r holl gyfyngiadau hyn ar waith er eich diogelwch chi. Mae cyfyngiad pwysau o 18 stôn ar yr holl lithrennau.
Mae gofynion isafswm taldra o 1.2m ar gyfer Ninja Tag. Mae’n rhaid i chwaraewyr Chwarae Antur fod yn llai na 148cm o daldra i gymryd rhan.
Nid oes rhaid i chi lenwi ffurflen hawlildiad ar gyfer Tag Ninja, yn hytrach, bydd gofyn i chi wylio fideo briff diogelwch wrth i chi gyrraedd.
Mae gofyn i bob cwsmer sy’n dymuno mynd i’r parc dŵr brynu tocyn mynediad am bris mynediad llawn y parc dŵr, gan gynnwys arsylwyr. Mae croeso i arsylwyr eistedd yn y bwyty coedwig law lle gellir gweld y parc dŵr, ac mae seddi cyffyrddus, Wi-Fi am ddim a gwasanaethau caffi ar gael yno.
Mae gennym declyn codi yn y pwll ar y safle sydd ar gael i’w ddefnyddio ar gais, nodwch os gwelwch yn dda, bydd y staff SC2 yn gweithredu’r teclyn. Mae gennym hefyd gawodydd a chyfleusterau newid hygyrch.
Mae gennym fyrddau a seddi ar gael o amgylch y parc dŵr, ond mewn cyfnodau prysur ni allwn sicrhau y bydd sedd ar gyfer pob cwsmer.
Er ein bod yn gwneud ein gorau glas i gadw a chynnal SC2 yn ddidrafferth, efallai y bydd yn rhaid i ni gau’r pwll yn annisgwyl. Os caiff eich sesiwn ei heffeithio yn sgil gorfod cau’r pwll yn annisgwyl, byddwch yn derbyn taleb ar gyfer sesiwn arall. Os nad yw eich sesiwn wedi dechrau eto, bydd ein tîm yn gwneud eu gorau i gysylltu â chi i ail-drefnu’r archeb.
Mae tymheredd y dŵr wedi’i osod ar 30 gradd Celsius drwy’r flwyddyn. Mae hyn yn gynhesach na’r rhan fwyaf o byllau nofio, ond ddim yn ddigon cynnes i fabanod ifanc iawn dros gyfnod hir efallai. Cofiwch hyn pan fyddwch yn cynllunio eich ymweliad.
Mae rhan o’r prif bwll dan do yn ddigon dwfn i nofio ynddo, fodd bynnag mae’r ardal ddŵr wedi’i llunio ar gyfer chwarae yn hytrach na nofio mewn lonydd traddodiadol. Ar ei ddyfnaf mae’r pwll dan do yn 90cm.
Oes, mae pad sblasio awyr agored gyda llithrennau dŵr, nodweddion dŵr ac offer chwarae dŵr ar gyfer ymwelwyr iau. Mae’r pad sblasio ar agor ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau ar ddyddiau cynnes a braf.
Mae’n rhaid cael tocyn ar wahân er mwyn mynd i’r pad sblasio awyr agored. Gweler ein tudalen brisiau ar gyfer prisiau mynediad.
Rydym yn cynnig gostyngiad ar gyfer gofalwyr cofrestredig. Rydym yn derbyn y dystiolaeth ganlynol o statws gofalwr:
- Llythyr Dyrannu Lwfans Gofalwr
- Llythyr Lwfans Gweini
- Credyd Cynhwysol gydag Elfen Gofalwr
- Credyd Gofalwr
- Cerdyn Gofalwr Lleol
- Cerdyn Gofalwyr Cenedlaethol
- Cofrestriad Meddyg Teulu
- Cerdyn Absenoldeb Brys i Ofalwyr
Rydym yn croesawu pob adborth gan gwsmeriaid a byddwn yn defnyddio unrhyw bryderon a godwyd neu welliannau a awgrymwyd yn gadarnhaol. Gofynnwn i gwsmeriaid godi unrhyw bryderon am eu hymweliad gyda rheolwr cyn gadael, a byddwn yn gwneud ein gorau i ddatrys unrhyw broblemau.