Cynnig Teyrngarwch Lleol

Gostyngiad o 50% i’r gymuned leol

Rydym yn lansio gostyngiad o 50% i’r gymuned leol brofi’r parc dŵr a’r arena TAG Actif.

Oherwydd galw mawr a’r lefel uchel o ddiddordeb mae SC2 wedi’i dderbyn o fewn mis cyntaf ei agor, mae’r parc dŵr a’r arena TAG Actif wedi cael ei ordanysgrifio yn ystod adegau prysur, ac mae cwsmeriaid wedi gorfod cael eu rhoi ar restr aros neu gael eu gwrthod. Rydym wedi gwrando ar ein trigolion lleol ac wedi lansio gostyngiad o 50% ar ddiwrnodau penodol ar gyfer y gymuned leol, er mwyn rhoi’r profiad gorau bosibl iddynt yn ystod yr wythnos, yn ystod y tymor, pan maent fwyaf tebygol o ymweld â SC2.

Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud iawn am unrhyw siom a brofodd ein cwsmeriaid lleol a gafodd eu gwrthod neu eu rhoi ar restr aros yn ystod y penwythnosau neu yn ystod amseroedd prysur oherwydd y nifer uchel o ymwelwyr yn SC2.

✨ Yr oll fydd angen i chi ei wneud i hawlio’r cynnig arbennig hwn yw rhoi’r cod: mayweekday50 wrth dalu ar www.sc2rhyl.co.uk/cy/archebwch-nawr/ a dangos eich cerdyn Hamdden Sir Ddinbych yn y dderbynfa


Telerau ac amodau:
Mae’r cynnig yn ddilys dydd Mercher i ddydd Gwener 4pm i 8pm yn yr arena TAG Actif ac ar ddyddiau Gwener 4pm i 9pm ar gyfer y parc dŵr, yn ystod y tymor yn unig. Mae’r cynnig hwn ar gael i ddeiliaid cerdyn Hamdden Sir Ddinbych yn unig. Gallwch brynu cardiau hamdden ar y dderbynfa 😃

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from Youtube
Vimeo
Consent to display content from Vimeo
Google Maps
Consent to display content from Google