DATGANIAD PREIFATRWYDD

Hunaniaeth a manylion cyswllt y Cyngor

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ‘rheolydd data’ ac mae wedi ei gofrestru gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth. Ein rhif cofrestru yw Z573781X.

Fel rheolydd data, bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau ein bod ni, neu unrhyw drydydd parti a allai brosesu data ar ein rhan, yn cydymffurfio ag egwyddorion deddfwriaeth Diogelu Data wrth brosesu data personol.

Gallwch gysylltu Γ’ ni am amrywiaeth o wasanaethau, neu drwy ffurflenni ar ein gwefanΒ http://www.sirddinbych.gov.uk

Caiff materion o ran sut caiff data ei drin, sylw gan Swyddog Diogelu Data’r Cyngor a gellir cysylltu Γ’’r Swyddog drwy e-bost,Β dataprotection@denbighshire.gov.ukΒ neu drwy’r cyfeiriad post a ddangosir uchod.

Fel awdurdod cyhoeddus, rhaid i ni gydymffurfio Γ’’r holl ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud Γ’ thrin data. Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw’r awdurdod goruchwylio yn y Deyrnas Unedig, ac fe’i sefydlwyd i sicrhau bod eich hawliau data yn cael eu cynnal.

CategorΓ―au data personol rydym yn eu cadw

Mae cael, cofnodi, cadw a delio Γ’ gwybodaeth bersonol yn cael ei alw’n ‘brosesu’.

Rydym yn cadw amrywiaeth o wahanol gategorΓ―au o ddata, yn dibynnu ar y berthynas sydd gan y Cyngor gyda chi. Mae’n bosibl ein bod yn cadw gwybodaeth fel eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni neu fanylion cyfrif banc, ond mae’n bosibl ein bod yn cadw gwybodaeth o fath mwy sensitif amdanoch chi, er enghraifft, gwybodaeth am eich iechyd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw droseddau rydych wedi’u cyflawni. Bydd y math o wybodaeth rydym yn ei chadw yn dibynnu ar y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu.

Gallai data personol olygu gwybodaeth a gedwir ar gyfrifiadur, mewn cofnod papur, h.y. ffeil, ond gall hefyd gynnwys mathau eraill o wybodaeth a gedwir yn electronig, h.y. delweddau teledu cylch caeedig (TCC).

Sut mae adrannau yn y Cyngor yn casglu a defnyddio eich data personol

Mae gan Gyngor Sir Ddinbych gyfrifoldeb cyffredinol dros amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus ar draws ein Hardal Awdurdod Lleol ac mae’n angenrheidiol casglu data personol i alluogi’r gwasanaethau hynny i gael eu darparu i breswylwyr.

Mae rhestr o wasanaethau’r Cyngor ar gael ar y wefan –Β http://www.sirddinbych.gov.uk

Dyma rai enghreifftiau o sut rydym yn casglu a defnyddio eich data:

Darparu gwasanaeth
Rydym yn cadw manylion y bobl hyn sydd wedi gwneud cais am wasanaeth er mwyn ei ddarparu. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio’r manylion hyn i ddarparu’r gwasanaeth gofynnol yn unig, neu ar gyfer gwasanaethau eraill cysylltiedig.

Caiff gwybodaeth bersonol ei chasglu a’i defnyddio pan rydym yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol neu’n gweinyddu treth y cyngor, budd-dal tai, grantiau a gwasanaethau pwysig eraill i’r cyhoedd.

Gorfodi
Mae rhai adrannau yn casglu data personol o ganlyniad i weithgarwch gorfodi a wneir gan y Cyngor.Β  Er enghraifft, mae data o’r fath yn cael ei gasglu gan ein hadran Gwarchod y Cyhoedd a’n hadran Priffyrdd wrth orfodi rheoliadau sy’n ymwneud Γ’ safonau masnach, tipio anghyfreithlon, priffyrdd a throseddau parcio.

Marchnata
Mae rhai adrannau yn darparu gwasanaethau yn Γ΄l disgresiwn a’ch gwahodd i gofrestru ar gyfer rhestrau post er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am eu gwasanaethau, cynigion arbennig neu weithgareddau a allai fod o ddiddordeb i chi.Β  Mae’r data personol hwn yn cael ei gasglu dim ond pan fyddwch yn darparu eich caniatΓ’d eich bod am gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallwch ddatdanysgrifio, ac mae gennych hawl i wneud hynny, neu gallwch ofyn i’ch data gael ei ddileu pan na fyddwch am gael gwybodaeth farchnata bellach.

Recriwtio
Pan fydd unigolion yn gwneud cais i weithio i’r Cyngor, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth maen nhw’n ei darparu i brosesu eu cais ac i fonitro ystadegau cyfle cyfartal yn unig.

Pan fydd unigolyn wedi cael gwaith gyda’r Cyngor, byddwn yn llunio ffeil staff sy’n gysylltiedig Γ’’u cyflogaeth. Mae’r wybodaeth a gedwir yn y ffeil yn cael ei chadw’n ddiogel a chaiff ei defnyddio ar gyfer dibenion sy’n berthnasol yn uniongyrchol i’r gyflogaeth honno yn unig.

Cofrestru i bleidleisio
Pan fydd unigolyn yn cofrestru i bleidleisio, mae eu henw a chyfeiriad yn cael eu cynnwys ar y gofrestr etholwyr. Mae dwy fersiwn o’r gofrestr yn cael eu gwneud a’u cyhoeddi bob blwyddyn.Β  Mae’r Gofrestr Lawn ar gael i’w harchwilio dan oruchwyliaeth.

Nid yw’r Gofrestr wedi’i Golygu yn cynnwys enwau a chyfeiriadau pobl sydd wedi gofyn i gael eu heithrio o’r fersiwn hon o’r gofrestr. Gall unrhyw un sy’n gofyn am gopi o’r Gofrestr wedi’i Golygu ei phrynu, a gallant ei defnyddio ar gyfer unrhyw ddiben.

Ffynhonnell data personol

Bydd mwyafrif helaeth y data personol rydym yn ei gadw wedi’i ddarparu i ni yn uniongyrchol gennych chi. Β  Mae adegau pan gaiff data personol ei gasglu amdanoch mewn ffyrdd eraill.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Pan fydd asiantaethau partner yn rhannu gwybodaeth gyda ni i ddarparu gwasanaeth cysylltiedig i chi
  • Pan fyddwch yn symud i’n Hardal Awdurdod Lleol, mae’n bosibl y bydd data yn cael ei rannu o’ch awdurdod lleol blaenorol
  • Pan fydd yr heddlu ac asiantaethau eraill gorfodi’r gyfraith yn rhannu gwybodaeth i alluogi’r awdurdod lleol i ddiogelu preswylwyr
  • Pan fydd aelodau’r cyhoedd yn rhoi gwybod i ni am faterion

Pobl rydym yn rhannu data gyda nhw

Rydym yn rhannu data gydag eraill i alluogi i wasanaeth gofynnol neu wasanaeth statudol gael ei ddarparu. Gallai hyn fod lle rydym yn defnyddio asiantaeth arall i ddarparu’r gwasanaeth ar ein rhan neu pan fyddwn yn cydweithredu ag asiantaethau eraill.

Gallai’r asiantaethau dan sylw fod yn bartneriaethau rhanbarthol, Llywodraeth Cymru, ysgolion lleol a cholegau, a’r Ymddiriedolaethau Iechyd.Β  Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth weithiau i’r sector preifat a’r sector elusennol pan fyddant yn rhan o ddarparu gwasanaeth ar ein rhan.

Enghraifft o gydweithio
Cais am gymhorthion ac offer i gynorthwyo defnyddiwr gwasanaeth hΕ·n. Cais o’r fath fyddai gwasanaeth a allai gael ei ddarparu ar y cyd gan ein timau Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn ogystal Γ’ gyda’r Bwrdd Iechyd.

Enghraifft o wasanaeth a delir amdano
Rydym yn talu rhai sefydliadau i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan fel darparwyr llety preswyl a gofal cartref. Mewn achosion o’r fath, y wybodaeth a ddarperir iddynt yw’r lefel isaf angenrheidiol i’w galluogi i ddarparu gwasanaethau i chi ar ein rhan.

Trosglwyddo gwybodaeth i awdurdod lleol arall
Gellir darparu gwybodaeth bersonol amdanoch chi i awdurdodau lleol eraill. Enghraifft fyddai lle rydych wedi symud o un ardal i ardal arall a bod angen rhannu gwybodaeth bersonol i ganiatΓ‘u i wasanaethau rydych yn eu cael i barhau.

Trosglwyddo gwybodaeth sy’n ofynnol gan y gyfraith
Rydym hefyd yn rhannu gwybodaeth bersonol pan fo angen i ni wneud hynny yn Γ΄l y gyfraith. Mae enghreifftiau yn cynnwys pan fo angen i ni gyhoeddi neu adrodd materion i Lywodraeth Cymru, i gynorthwyo asiantaethau gorfodi’r gyfraith i atal, canfod ac erlyn troseddau, i ddiogelu buddiannau hanfodol yr unigolyn dan sylw neu i gydymffurfio Γ’ Gorchymyn Llys.

Mynediad i wybodaeth gan gwmnΓ―au preifat
Mewn rhan achosion, rydym yn rhannu gwybodaeth gyda chwmnΓ―au preifat er mwyn iddynt weithredu fel prosesydd data ar ein rhan.Β  Mae trefniadau o’r fath yn destun trefniadau prosesu data gyda rheolau caeth ar brosesu i gadw’r data yn ddiogel.

Weithiau, mae’n bosibl y bydd gan rai cwmnΓ―au’r sector preifat fynediad i ddata personol mewn ffordd a reolir yn llym er mwyn cynnal gweithgarwch cynnal a chadw diffiniedig ar y system am gyfnod cyfyngedig.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data

Ni chaiff data ei gadw am hirach nag sy’n angenrheidiol, ac mae’r Cyngor yn dilyn canllawiau cyfreithiol ac arfer gorau ar ba mor hir dylid cadw gwybodaeth cyn iddi gael ei dinistrio’n ddiogel.

Mae’r terfyn amser ar gyfer cadw data yn wahanol gan ddibynnu ar y math o ddata dan sylw.

Trosglwyddo y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd

Ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol y tu hwnt i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd ar sail reolaidd. Β  Gellir trosglwyddo data personol i wlad tu allan i’r ardal hon dim ond os yw’r gyrchfan wedi bod yn destun penderfyniad digonolrwydd ei bod yn bodloni meini prawf penodol a osodir gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae hyn yn golygu y gallwn anfon gwybodaeth i wlad, dim ond os yw’n bodloni safonau llym iawn. Os nad yw’r safonau hynny ar waith, ni fyddwn yn defnyddio’r gwasanaethau.

Yn yr amgylchiadau prin iawn pan fydd eich gwybodaeth bersonol wedi’i throsglwyddo y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, cewch wybod o flaen llaw, cyn belled nad yw’n gwrthdaro Γ’ rhwymedigaeth gyfreithiol a roddwyd ar y Cyngor.

Eich hawliau data

1. Hawl i gael gwybod
Rhaid i ni fod yn gwbl dryloyw gyda chi drwy ddarparu gwybodaeth mewn ffurf gryno, tryloyw, dealladwy a hygyrch iawn, gan ddefnyddio iaith glir a phlaen. Ein hysbysiad preifatrwydd yw un o’r ffyrdd rydym yn ceisio rhoi gwybod i chi sut caiff data ei drin.

2. Hawl i gael mynediad
Mae gennych hawl i gael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol. I gael manylion am sut gallwch gael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol, gweler einΒ tudalen diogelu data.

3. Hawl i gywiro
Mae gennych hawl heb oedi gormodol i ofyn am gywiro neu ddiweddaru data personol anghywir.

4. Hawl i gyfyngu ar brosesu
Gallwch ofyn am gyfyngu ar brosesu fel pan fo cywirdeb y data personol yn cael ei amau. Mae hyn yn golygu y gallwn storio’r data personol yn unig ac nid ei brosesu ymhellach, ar wahΓ’n i mewn amgylchiadau cyfyngedig.

5. Hawl i wrthwynebu
Gallwch wrthwynebu i fathau penodol o brosesu fel marchnata uniongyrchol. Mae’r hawl i wrthwynebu hefyd yn berthnasol i fathau eraill o brosesu fel prosesu ar gyfer dibenion gwyddonol, ymchwil hanesyddol neu ystadegol (er mae’n bosibl y bydd prosesu yn digwydd o hyd am resymau budd y cyhoedd).

6. Hawliau o ran gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio
Mae’r gyfraith yn darparu amddiffyniad i chi yn erbyn y risg bod penderfyniad niweidiol posibl yn cael ei wneud heb ymyrraeth ddynol. Nid yw’r hawl yn berthnasol mewn amgylchiadau penodol fel pan fyddwch yn rhoi eich caniatΓ’d penodol.

7. Hawl i gludadwyedd data
Pan gaiff data personol ei brosesu ar sail caniatΓ’d a thrwy ddulliau awtomataidd, mae gennych hawl i gael eich data personol wedi’i drosglwyddo’n uniongyrchol o un rheolydd data i un arall pan fo hyn yn dechnegol bosibl.

8. Hawl i ddileu neu ‘hawl i gael eich anghofio’
Gallwch ofyn am ddileu eich data personol gan gynnwys pan:
(i) nad yw’r data personol yn angenrheidiol bellach o ran y dibenion y cafodd ei gasglu ar eu cyfer
(ii) nad ydych yn darparu eich caniatΓ’d bellach, neu
(iii) rydych yn gwrthwynebu i’r prosesu.

Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth yn rheoleiddio trin data gan sefydliadau yn y DU a gweithio i gynnal hawliau data dinasyddion ac maeΒ gwefan y Comisiynydd GwybodaethΒ yn darparu rhagor o wybodaeth am yr hawliau sydd ar gael i chi.

Tynnu caniatΓ’d yn Γ΄l

Os gwnaethoch roi caniatΓ’d i ddarparu eich gwybodaeth bersonol i ni a’ch bod wedi newid eich meddwl ac nad ydych am i’r Cyngor gadw a phrosesu eich gwybodaeth bellach, rhowch wybod i ni. I ddechrau, cysylltwch Γ’’r adran berthnasol. Dylai tynnu caniatΓ’d yn Γ΄l fod mor hawdd i’w wneud Γ’ phan wnaethoch roi caniatΓ’d yn y lle cyntaf. Os nad hynny yw eich profiad gyda gwasanaeth penodol, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am eich anawsterau er mwyn i ni allu ei gywiro.

Os byddwch yn cael unrhyw anawsterau wrth dynnu caniatΓ’d yn Γ΄l, cysylltwch Γ’ Swyddog Diogelu Data’r Cyngor drwy e-bost ynΒ dataprotection@denbighshire.gov.ukΒ neu drwy ysgrifennu at:
Swyddog Diogelu Data, Cyngor Sir Ddinbych. Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ.

Gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio

Nid yw’r Cyngor yn cynnal proses gwneud penderfyniadau awtomataidd, ac felly bydd unrhyw benderfyniad a wneir gennym sy’n effeithio arnoch chi bob amser yn cynnwys ymyrraeth ddynol. Β  Weithiau byddwn yn proffilio i’n galluogi ni fel awdurdod lleol i dargedu gwasanaethau i’r rhai yn y gymdeithas sydd angen help a chymorth ac a allai ddioddef niwed heb ein cymorth.

Yr hawl i gwyno am drin data

Mae’r Cyngor yn gosod safonau uchel iawn ar gyfer casglu a defnyddio data personol yn briodol. Felly rydym yn trin unrhyw gwynion am drin data yn ddifrifol iawn. Rydym yn eich annog i ddwyn ein sylw at achosion lle mae defnyddio data yn annheg, camarweiniol neu amhriodol ac rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau am welliant.

Datrys anffurfiol

I ddechrau, byddem yn gofyn i chi geisio datrys materion trin data yn uniongyrchol gyda’r adran berthnasol. Gallwch hefyd gysylltu Γ’’n Swyddog Diogelu Data –Β dataprotection@denbighshire.gov.ukΒ pe baech yn cael anhawster wrth ganfod datrysiad gyda’r adran berthnasol.

Rydym wedi ein hymrwymo i drin data yn briodol ac rydym yn ffyddiog y gallwn ddatrys y rhan fwyaf o faterion yn anffurfiol.

Datrys ffurfiol

Gallwch ofyn i’ch mater gael ei drin drwy einΒ porthol cwynion ar-lein.

Os na fyddwch yn fodlon ar Γ΄l cwyn fewnol, gallwch roi cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth:Β  Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth –Β https://ico.org.uk/

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google